Joint review in Wales
*
*
*
*

Cyflwyno Cydadolygiadau

Y Gweinidog yn lansio'r ail gylch adolygiadau ar y cyd yng Nghymru

Mae'r Gweinidog dros lechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru Jane Hutt wedi lansio'n ffurfiol yr ail gylch o adolygiadau au ar y cyd ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Mae adolygiadau ar y cyd yn archwilio pa mor dda y mae gwasanathau cymdeithasol cynghorau lleol yn diwallu anghenion plant hawdd eu niweidio, pobl oedrannus, pobl sydd ag anableddau corfforol, synhwyraidd a dysgu, pobl a phroblemau iechyd meddwl a grwpiau eraill hawdd eu niweidio. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys amddiffyn plant, maethu, cymorth teuluol, gofal preswyl a gofal cartref.

Ymdriniodd y cylch cyntaf o adolygiadau ar y cyd a Chymru a'r Comisiwn Archwilio yng Nghymru. Bydd yn cynnwys pob cyngor yng Nghymru dros gyfnod o bum mlynedd.

Lansiodd y Gweinidog yr ail gylch mewn uwch gynhadledd arbennig o'r gwasanaethau cymdeithasol a gynhaliwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Dywedodd: "Mae adolygiadau ar y cyd yn parhau i fod yn her, y mae rhaid i gynghorau ei fodloni, o ran cyflwyno gwasanaethau cymdeithasol sy'n diwallu anghenion pobl i safonau sy'n gyson o dda. Os na lwyddir i fodloni'r her honno, bydd adolygiadau ar y cyd yn parhau i ddweud hynny wrthym, yn eu ffordd ddiamwys eu hunain. Ond os llwyddir i fodloni'r her, a gobeithio mai felly y bydd hi, bydd adolygiadau ar y cyd yn yr un ffordd yn tynnu sylw at y cynnydd a wneir ac yn helpu i ddathlu llwyddiant."
08 Rhagfyr 2004 

Minister launches second round of joint reviews in Wales

*
*
*

Content from Joint Review in Wales:
http://www.joint-reviews.gov.uk/cymraeg/howreviewswork/introducingJointeview.asp
Published : 03 April 2007 16:45