|
Mae Cydadolygiadau'n darparu asesiad annibynnol o ba mor dda y mae'r cyhoedd yn cael eu gwasanaethu gan wasanaethau cymdeithasol yn lleol.
Mae'r adolygiadau'n pennu pa awdurdodau sy'n gwneud yn dda, ac yn tynnu sylw at y meysydd hynny y gellid eu gwella. Mae Cydadolygiadau yn parhau yng Nghymru tra bod y cyfrifoldeb am y gwaith hwn yn Lloegr wedi'i drosglwyddo i'r Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol. Mae cydadolygiadau yn bartneriaeth rhwng y Cynulliad Cenedlaethol drwy Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGCC) a Swyddfa Archwilio Cymru. Yn ystod y cylch cyntaf o bum mlynedd adolygwyd holl awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol Cymru a Lloegr gan dim arbennig a oedd yn gweithredu ar ran AGCC, SSI (Lloegr) a'r Comisiwn Archwilio. Daeth y trefniant hwn i ben yn 2003, yn dilyn adolygiad a gomisiynwyd gan yr Adran lechyd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae AGCC yn gweithio mewn partneriaeth a Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn datblygu a gweithredu'r trefniadau newydd. Mae'r wefan hon wrthi'n cael ei diweddaru er mwyn adlewyrchu'r trefniadau hynny.
|