Joint Review in Wales
English  Hygyrchedd  Cyswllt  Argraffwch y tudalen 

Newyddion

Gwefan newydd yn amlygu ansawdd gwasanaethau cynghorau

Cafodd gwefan newydd sy’n darparu gwybodaeth i bobl ar safon gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ei lansio heddiw (dydd Mercher, 27 Gorffennaf).

Bydd y wefan yn cynnwys manylion y cydadolygiadau a gyflawnwyd gan Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. 

Mae’r adolygiadau’n archwilio pa mor effeithiol y mae cynghorau’n darparu gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer plant sy'n agored i niwed, yr henoed, pobl gydag anableddau corfforol, anableddau ar eu synhwyrau ac anableddau dysgu, pobl gyda phroblemau iechyd meddwl, grwpiau eraill sy’n agored i niwed a’r rhai sy’n gofalu amdanynt. 

Mae’r cydadolygiadau’n cynorthwyo i wella’r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol hyn ac i sicrhau eu bod yn cwrdd ag anghenion pobl leol. Bu cydadolygiadau’n llwyddiannus iawn o safbwynt cynorthwyo cynghorau i adnabod eu cryfderau a’r meysydd lle mae angen iddynt wella. Daethant yn ddigwyddiadau heriol, sy’n creu pwysau sylweddol ar gyfer newid.

Mae’r wefan yn cynnwys adroddiadau ynghylch adolygiadau mewn awdurdodau lleol unigol a thoreth o ddeunydd arall, gan gynnwys y canllaw ar gyfer cydadolygiadau yng Nghymru, copïau o daflenni, a llawlyfr manwl. Bydd yn caniatáu mynediad haws a chyflymach at wybodaeth a deunyddiau ynghylch cydadolygiadau ar gyfer pawb sy’n ymwneud â’r maes.  
 
Meddai Graham Williams, y Prif Arolygydd: " Gobeithiwn y bydd pobl yng Nghymru’n gweld y wefan hon yn ddefnyddiol.  Rydym am weld gweithredu’r rhaglen o gydadolygiadau mewn ffordd mor dryloyw ac agored ag sy’n bosibl.”

Ychwanegodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru: “Bydd y wefan newydd yn caniatáu mynediad haws a chyflymach at wybodaeth a deunyddiau ynghylch cydadolygiadau ar gyfer pawb sy’n ymwneud â’r maes. Mae’n un o’r ffyrdd allweddol o sicrhau dull modern o arolygu; hybu cyfranogi eang mewn cydadolygiadau a gwella’r gwasanaethau lleol hanfodol hyn"

<< Back to previous page
Hafan | Sut mae Adolygiadau'n Gweithio | Pwy yw Pwy? | Y Broses ar gyfer | Y Rhaglen Cydadolygiadau | Adroddiadau Cydadolygiadau | Newyddion | Making Ends Meet | Amodau a thelerau | Datganiad preifatrwydd | Map o'r wefan
Design & Technology by Reading Room  © The Wales Audit Office 2005
Wales Audit Office SSIW/AGCC