Joint Review in Wales
English  Hygyrchedd  Cyswllt  Argraffwch y tudalen 

Newyddion

Pa mor effeithiol yw’r gwasanaethau cymdeithasol yn eich ardal chi?

03 August 2006
Gwnaeth ymarfer cloriannu diweddar ddarparu tystiolaeth bod cydadolygiadau yn parhau i chwarae rôl allweddol yn y gwaith o ddarparu atebion cadarn i’r cwestiwn hwn ar ran y cyhoedd. 

Mae adroddiadau’r cydadolygiad cyntaf wedi bod yn effeithiol o ran:

  • darparu dyfarniadau clir ynghylch perfformiad sydd wedi eu seilio’n llwyr ar y dystiolaeth
  • amlinellu arferion da
  • hyrwyddo gwelliannau
  • diogelu buddiannau defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr.

Mae angen gwneud rhai newidiadau i’r ffordd y caiff adolygiadau eu cynnal, yn rhannol er mwyn lleihau’r gwaith sy’n rhaid i’r Cynghorau ei wneud yn ystod y broses adolygu. Mae llythyr diweddar a anfonwyd at y Cynghorau oddi wrth reolwyr arweiniol y tîm adolygu, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf o ran cyflwyno newidiadau o’r fath.

Y neges galonogol yw bod cydadolygiadau yn parhau i gael effaith sylweddol yn y Cynghorau a’u bod yn parhau yn bwysig o ran dweud wrth y cyhoedd sut y mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn gwella

I gael rhagor o wybodaeth cliciwch ar y cysylltiadau isod:

Crynodeb o’r adroddiad ar y broses gloriannu (pdf)

Y llythyr oddi wrth y rheolwyr arweiniol (pdf)

<< Back to previous page
Hafan | Sut mae Adolygiadau'n Gweithio | Pwy yw Pwy? | Y Broses ar gyfer | Y Rhaglen Cydadolygiadau | Adroddiadau Cydadolygiadau | Newyddion | Making Ends Meet | Amodau a thelerau | Datganiad preifatrwydd | Map o'r wefan
Design & Technology by Reading Room  © The Wales Audit Office 2005
Wales Audit Office SSIW/AGCC