|
Mae arweinyddiaeth, gweledigaeth a chamau gweithredu wedi'u cyfuno â'r hyn a ddysgir gan ddefnyddwyr gwasanaeth a staff yn rhai o'r ffactorau pwysig sy'n ysgogi gwelliant mewn gwasanaethau cymdeithasol yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.
Comisiynwyd yr adroddiad, a ysgrifennwyd gan Sue Mead, cyn Gyfarwyddwraig Adolygiadau ar y Cyd, gan AGGCC a Swyddfa Archwilio Cymru i ddwyn ynghyd yr hyn a ddysgwyd o adolygiadau ar y cyd yng Nghymru dros y deng mlynedd diwethaf, nodi'r ffactorau allweddol sy'n ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau cymdeithasol ac amlygu meysydd sy'n gwella'n gyson. Mae'r adroddiad hefyd yn ystyried pa ddatblygiadau sefydliadol a gwasanaeth sydd eu hangen gan awdurdodau lleol i gynnal y cynnydd a wnaed a gwella ymhellach.
Mae'r adroddiad yn darparu dadansoddiad trylwyr a chynhwysfawr o'r data a'r wybodaeth sydd ar gael, gan ddwyn ynghyd y dystiolaeth o'r 10 mlynedd diwethaf o adolygiadau ar y cyd, ond gan ganolbwyntio'n benodol ar yr ail raglen o adolygiadau a ddechreuodd yn 2004.
Mae'r adroddiad yn nodi bod arwyddion cadarnhaol o welliant yn arweinyddiaeth gofal cymdeithasol o fewn Cynghorau ers i adolygiadau ar y cyd ddechrau 10 mlynedd yn ôl. Mae gofal cymdeithasol wedi cael proffil llawer uwch o fewn Cynghorau a gwelwyd buddsoddiad newydd sylweddol. Mae pwyslais cryf ar ddatblygu'r gweithlu wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol gyda'r rhan fwyaf o Gynghorau'n dangos gwelliant cyson yn y maes hwn.
Bu gwelliant cyffredinol yn yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael gydag adnoddau yn cael eu paru ag anghenion a blaenoriaethau mewn ffordd fwy systematig. Mae partneriaethau gwell gyda'r sector gwirfoddol hefyd yn helpu i ddarparu gwasanaethau'n fwy effeithiol. Mae cynnydd wedi'i wneud o ran datblygu dulliau sy'n canolbwyntio'n fwy ar hyrwyddo annibyniaeth ac adsefydlu gyda rhai gwasanaethau da sy'n seiliedig ar brosiectau bellach ar gael. Fodd bynnag, mae ymestyn y cwmpas y tu hwnt i gynlluniau peilot i ethos sy'n galluogi ar draws pob gwasanaeth prif ffrwd yn parhau'n her.
Mae'r adroddiad yn nodi bod boddhad cyffredinol â gwasanaethau cymdeithasol ymhlith y bobl hynny sy'n eu defnyddio yn parhau'n uchel a chafodd lefelau o foddhad gyda gwasanaethau cymdeithasol eu cynnal neu eu gwella rhwng y cylch cyntaf a'r ail gylch o adolygiadau ar y cyd. Fodd bynnag, mae disgwyliadau o wasanaethau'r Cyngor wedi newid yn ystod y degawd ers i adolygiadau ar y cyd ddechrau, a dywed yr adroddiad bod y rhai hynny sy'n defnyddio gwasanaeth yn dal i weld gwahaniaethau amlwg yn ansawdd a lefel y gwasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir gan eu Cyngor lleol, a bod bwlch rhy fawr o hyd rhwng y Cynghorau sy'n perfformio orau a'r rhai sy'n perfformio waethaf yng Nghymru.
Mae'r adroddiad yn amlygu nifer o feysydd gwasanaeth a sefydliadol sydd angen sylw pellach, gan gynnwys:
- asesu a rheoli gofal, yn enwedig dadansoddi a rheoli risg;
- darparu dewisiadau da i bobl hyn gyda demensia;
- darparu cymorth amserol i ofalwyr;
- cynnal ffocws ar gyfres o flaenoriaethau lefel uchel y cytunwyd arnynt;
- meddu ar gynlluniau ariannol tymor canolig cadarn i gefnogi strategaethau gwasanaetha(u).
Heddiw dywedodd Prif Arolygydd Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Rob Pickford: ‘Mae'r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd y pethau gwerthfawr a ddysgwyd o Adolygiadau ar y Cyd o Wasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru dros y degawd diwethaf. Dengys fod cynnydd wedi'i wneud mewn gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y cyfnod hwn ac mae'n nodi rhai o'r ffactorau llwyddiant allweddol sy'n cyfrannu at y gwelliant hwnnw. Mae gennym gyfle gwirioneddol, drwy'r adroddiad hwn, i ddysgu gwersi o'r daith 10 mlynedd hon ac i ddefnyddio'r gwersi i hyrwyddo a llywio gwelliannau pellach. Rhaid i ni gyd godi i'r her hon a sicrhau y lledaenir y negeseuon yn yr adroddiad yn eang ac yr adeiledir arnynt yn ein sefydliadau ein hunain yn ogystal â ledled Cymru gyfan.’
Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman: ‘Mae'r adroddiad hwn yn helpu i nodi lle y mae gwelliannau wedi'u gwneud mewn gwasanaethau cymdeithasol dros y deng mlynedd diwethaf, a'r prif ffactorau sy'n ysgogi gwelliant. Dylai felly roi cyfle gwirioneddol i bob cyngor ddysgu'r gwersi o'r Rhaglen Adolygiadau ar y Cyd yng Nghymru a chyrraedd safonau'r rhai sy'n perfformio orau.’
Nodiadau i Olygyddion:
- Dechreuodd adolygiadau ar y cyd yn 1998 a chawsant eu rheoli a'u darparu ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru cyn 2007) a Swyddfa Archwilio Cymru (y Comisiwn Archwilio yng Nghymru cyn 2005).
- Diben adolygiadau ar y cyd oedd adolygu'n annibynnol pa mor dda roedd cymunedau lleol yn cael eu gwasanaethu gan wasanaethau cymdeithasol cyngor. Roedd adolygiadau'n edrych ar ansawdd y gwasanaethau a brofwyd gan y rhai a oedd yn eu defnyddio, a pha mor dda roedd cynghorau'n defnyddio adnoddau ac yn trefnu eu hunain i sicrhau bod gwasanaethau da yn cael eu darparu'n gyson yn y dyfodol.
- Rhwng 1998 a 2004 cafodd pob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru eu hadolygu.
- Rhwng 2004 a 2008 cafodd 10 awdurdod lleol yng Nghymru ail adolygiad ar y cyd.
- Ym mis Ebrill 2007, sefydlwyd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol newydd. Rhoddodd hyn gyfle i edrych o'r newydd ar gyd-destun presennol gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ac ar adeg llunio'r adroddiad roedd ymgynghoriad ar drefniadau newydd ar gyfer arolygu gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn mynd rhagddo.
|