Joint Review in Wales
English  Hygyrchedd  Cyswllt  Argraffwch y tudalen 

Datganiadau i'r wasg

Adolygiad ar y cyd yn datgelu bod heriau sylweddol yn wynebu gwasanaethau cymdeithasol Gwynedd

16 October 2008
Nid yw Cyngor Gwynedd wedi gwneud digon o gynnydd o ran datblygu gwasanaethau cymdeithasol modern sy'n helpu pobl fregus i fyw bywydau llawn ac annibynnol, ac nid yw ei fwriadau da niferus ers yr adolygiad ar y cyd diwethaf yn 2001 wedi'u cyflawni.

Yn ôl yr adolygiad ar y cyd diweddaraf a gyhoeddir heddiw mae'r cyngor yn darparu gwasanaethau anghyson ac mae mewn sefyllfa wael i gynnal gwasanaethau a'u gwella ymhellach.  Mae llawer o ddefnyddwyr gwasanaethau'n cael help, gofal a chefnogaeth sy'n eu galluogi i fyw bywydau annibynnol. Ond nid yw'r lefelau gofal hyn yn gyson â phroblemau o ran hyblygrwydd, dewis a chwmpas daearyddol cyson.

Roedd adolygwyr yn pryderu'n arbennig nad oedd llawer o'r gwelliannau a gynlluniwyd i wasanaethau i oedolion wedi'u gweithredu, ac mae angen newid mwy radical ym mhatrwm y gwasanaethau a ddarperir ar fyrder. Er bod staff yn gweithio'n galed i ddarparu gwasanaeth sy'n cael ei werthfawrogi gan ddefnyddwyr gwasanaethau, mae argaeledd gwasanaethau yn amrywio ac nid yw asesiadau o angen am wasanaethau cymdeithasol yn dal i ganolbwyntio'n ddigon cyson ar gyflawni canlyniadau da i bobl.

Mewn gwasanaethau plant, canfuodd yr adolygiad fod mwy wedi'i wneud i wella agweddau ar arfer a gwasanaeth yn dilyn pryderon am berfformiad. Ers yr adolygiad diwethaf mae'r Cyngor wedi buddsoddi mewn nifer o wasanaethau i blant sydd wedi'u datblygu mewn partneriaeth â sefydliadau eraill ac mae'r rhain yn helpu i ategu trefniadau gwaith amlasiantaeth. Fodd bynnag, erys pryderon ynghylch rhai meysydd allweddol, yn cynnwys y diffyg cysondeb o ran asesu a chynllunio gofal, cydymffurfiaeth â rheoliadau a chanllawiau yn y meysydd hyn. Mae angen mynd i'r afael â bylchau allweddol mewn gwasanaethau megis gwasanaethau cymorth i deuluoedd a gwasanaethau i blant sy'n derbyn gofal.

Gwnaed ymdrechion ers yr adolygiad ar y cyd diwethaf i gynyddu'r gwario ar wasanaethau cymdeithasol. Fodd bynnag, daeth yr adolygwyr i'r casgliad na fanteisiwyd i'r eithaf ar y gwariant diweddar a bod angen i'r Cyngor ganolbwyntio mwy ar fanteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael. Mae comisiynu a rheoli perfformiad yn feysydd eraill y mae angen eu gwella'n sylweddol, a daeth yr adolygiad i'r casgliad bod angen i gynghorwyr a swyddogion corfforaethol arwain o ran datblygu'r newidiadau sylweddol sydd eu hangen i sicrhau y gellir cyflawni gwelliannau cynaliadwy.

Mae'r adroddiad yn nodi nifer o flaenoriaethau ar gyfer gweithredu yn cynnwys yr angen i:

  • Ddangos rheoli corfforaethol cadarn ac arweinyddiaeth wleidyddol o newid i wasanaethau cymdeithasol;
  • Datblygu arweinyddiaeth effeithiol o fewn gwasanaethau cymdeithasol a gwella'r broses o reoli newid ym mhob maes gwasanaeth;
  • Sicrhau bod anghenion plant a theuluoedd yn cael eu diwallu;
  • Pennu cyfeiriad clir i wasanaethau i oedolion, sy'n rhoi mwy o ddewis i ddefnyddwyr gwasanaethau ac yn eu galluogi i fyw'n annibynnol;
  • Sicrhau bod systemau cadarn ar waith i sicrhau gwaith rheoli perfformiad effeithiol;
  • Sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol i ddarparu gwasanaethau sy'n ymateb i'r angen ac yn darparu gwerth am arian.

Heddiw dywedodd Prif Arolygydd AGGCC, Rob Pickford:
“Mae'r tîm adolygu wedi dod i'r casgliad bod gwasanaethau cymdeithasol yng Ngwynedd yn anghyson a bod angen gwneud gwelliannau ar fyrder er mwyn iddynt gyrraedd y safon ofynnol. Nid yw'r cyngor wedi symud i'r cyfeiriad cywir i fynd i'r afael â'i ddiffygion ac yn awr mae angen iddo ddangos yn glir y gall fynd i'r afael ag agenda gynyddol heriol a datblygu ymateb effeithiol i'r pryderon a godwyd yn yr adolygiad ar y cyd hwn”.

 Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman:
“Mae Gwynedd yn methu â darparu gwasanaethau cymdeithasol sy'n diwallu anghenion yr holl ddefnyddwyr gwasanaethau yn gyson ac nid yw'n gallu dangos y manteisiwyd i'r eithaf ar y buddsoddiad mewn gwasanaethau. Mae angen i'r Cyngor ganolbwyntio ar ddatblygu amrywiaeth eang o wasanaethau modern, sy'n darparu gwell gwerth am yr adnoddau a ddefnyddiwyd.”

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae'r adroddiad hwn yn rhan o ail gyfres o adolygiadau ar y cyd, rhaglen dreigl pum mlynedd i asesu perfformiad awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol unigol yng Nghymru. Cynhaliwyd yr adolygiad o Wynedd rhwng mis Ebrill 2007 a mis Gorffennaf 2007.
  • Cynhelir adolygiadau ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.
  • Cynhelir adolygiadau ar y cyd yn unol â Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003, sy'n rhoi'r pwer i Weinidogion Cymru gynnal adolygiadau o'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
  • Nod adolygiadau ar y cyd yw ateb dau gwestiwn allweddol: Pa mor dda yw'r gwasanaethau cymdeithasol a ddarperir i bobl yn yr ardal ac i ba raddau y gall y Cyngor gynnal a gwella gwasanaethau?
  • Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan yr adolygiad ar y cyd: ww.joint-reviews.gov.uk
<< Back to previous page
Hafan | Sut mae Adolygiadau'n Gweithio | Pwy yw Pwy? | Y Broses ar gyfer | Y Rhaglen Cydadolygiadau | Adroddiadau Cydadolygiadau | Newyddion | Making Ends Meet | Amodau a thelerau | Datganiad preifatrwydd | Map o'r wefan
Design & Technology by Reading Room  © The Wales Audit Office 2005
Wales Audit Office CSSIW/AGGCC