|
Yn ôl adroddiad Cydadolygiad a gyhoeddwyd heddiw, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn darparu amrediad da iawn o wasanaethau cymdeithasol ac yn ymdrechu i ddarparu gwasanaethau sy’n diwallu disgwyliadau ac anghenion newidiol y cyhoedd.
Dywed yr adolygiad a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru fod gwasanaethau cymdeithasol y Cyngor yn dda ar y cyfan, a bod yr awdurdod mewn sefyllfa dda i wella’r gwasanaethau ymhellach at y dyfodol. Canfu’r adolygwyr fod ymrwymiad parhaus y Cyngor i roi blaenoriaeth i faes gwasanaethau cymdeithasol, yn ogystal â darparu buddsoddiad ariannol sylweddol, wedi helpu i gefnogi gwelliant parhaus ers cyhoeddi adroddiad y cydadolygiad diwethaf ym mis Tachwedd 2001.
Canfu’r adolygiad fod arweinyddiaeth glir a ffocws corfforaethol cadarn ar y gwasanaethau cymdeithasol wedi arwain at reoli newid mewn modd effeithiol wrth foderneiddio’r ddarpariaeth o wasanaethau. Mae staff y Cyngor yn gwbl ymrwymedig i’r newidiadau sy’n cael eu gwneud, ac sydd wedi arwain at sicrhau bod amrywiaeth cynyddol o wasanaethau ar gael i helpu pobl i fyw bywydau annibynnol sy’n llawn boddhad. At ei gilydd, yr oedd y cynnydd a gyflawnwyd ac ansawdd da llawer o’r gwasanaethau a welwyd wedi creu argraff dda iawn ar yr adolygwyr.
Mae’r adroddiad yn amlygu nifer o feysydd y mae angen gwella arnynt ymhellach, gan gynnwys yr angen i roi sylw i’r pwysau a’r bylchau mewn rhai gwasanaethau. Ymysg y meysydd eraill a nodwyd gan yr adolygwyr fel meysydd i’w datblygu mae gwella amseroldeb ac ansawdd yr asesiadau, sicrhau y caiff risgiau eu rheoli mewn modd effeithiol, hyrwyddo cefnogaeth bellach i ddiwallu anghenion gofalwyr a phobl o gymunedau lleiafrifol, gan sicrhau gwerth am arian ar draws yr holl weithgareddau a gwella ymhellach unrhyw drefniadau craffu.
Mae’r Cyngor yn cydnabod y diffygion hyn, ac yn ymwybodol fod yn rhaid prysuro i gyflawni newidiadau er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn a sicrhau bod y gwasanaethau cymdeithasol yn parhau i fod mewn sefyllfa gref i ymateb mewn modd effeithiol i’r newidiadau sylweddol a gynlluniwyd gan y rheolwyr at y dyfodol. Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion allweddol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Gwella’r adolygiadau asesu a rheoli gofal ar draws nifer o feysydd gwasanaethau;
- Datblygu strategaethau comisiynu effeithiol; a
- Sicrhau bod digon o gapasiti o safbwynt rheolwyr i gyflawni’r rhaglen o newidiadau a luniwyd.
Dyma beth oedd gan Rob Pickford, Prif Arolygydd AGGCC i’w ddweud heddiw:
“Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi dangos ymrwymiad cadarn a chynaliadwy i’r gwasanaethau cymdeithasol ac mae wedi cyflawni cynnydd ardderchog wrth barhau i wella ansawdd ac amrediad y gwasanaethau cymdeithasol sydd ar gael i’r cyhoedd. Gall y Cyngor, a’i reolwyr a’r staff, ymfalchïo yn yr hyn y maent wedi’i gyflawni”
Dyma beth oedd gan Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru, i’w ddweud heddiw:
“Mae Castell-nedd Port Talbot wedi gwella’r gwasanaethau cymdeithasol a dylid eu llongyfarch ar y cynnydd hyd yma. Bydd ymrwymiad y Cyngor i gyflawni gwelliannau yn greiddiol i’r prif raglen o newidiadau a ddatblygwyd ganddo o fewn yr amgylchedd ariannol caled sydd ohoni.”
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae’r adroddiad hwn yn rhan o ail gyfres o gydadolygiadau, rhaglen dreigl dros bum mlynedd i asesu perfformiad awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol unigol yng Nghymru. Cynhaliwyd adolygiad Castell-nedd Port Talbot rhwng mis Medi 2007 a mis Tachwedd 2007.
- Cynhelir y cydadolygiadau ar y cyd rhwng Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.
- Cynhelir cydadolygiadau yn unol â Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau), sy’n rhoi grym i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gynnal adolygiadau o’r modd y mae awdurdodau lleol yn gweithredu’u swyddogaethau o ran gwasanaethau cymdeithasol.
- Bwriad cydadolygiadau yw ateb dau gwestiwn allweddol: Pa mor dda yw’r gwasanaethau cymdeithasol y mae pobl yn yr ardal yn eu derbyn a beth yw sefyllfa’r Cyngor o ran cynnal a gwella’r gwasanaethau?
- Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar wefan y cydadolygiadau:
www.joint-reviews.gov.uk
|