Joint Review in Wales
English  Hygyrchedd  Cyswllt  Argraffwch y tudalen 

Datganiadau i'r wasg

Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion yn dangos gwelliannau da

29 February 2008

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu Gwasanaethau Cymdeithasol “da ar y cyfan” ac mae’r Cyngor mewn sefyllfa dda i gynnal a gwella gwasanaethau, yn ôl adroddiad Cydadolygu a gyhoeddir heddiw.

Mae’r adolygiad, a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, yn datgan bod y Cyngor wedi codi proffil Gwasanaethau Cymdeithasol ers y cydadolygiad diwethaf a bod rhai o’r gwasanaethau a ddarperir i bobl agored i niwed wedi gwella’n sylweddol.

Darganfu’r adolygwyr fod y Cyngor wedi symud y canolbwynt o wasanaethau i ddarparu mwy o ddewisiadau cynhwysol i ddefnyddwyr gwasanaeth, gyda mwy o bobl yn derbyn cymorth i fyw yn ddiogel gartref.  O ran gwasanaethau i oedolion, mae’r ystod o wasanaethau wedi cynyddu ac maent yn helpu i ddarparu ymagwedd sydd wedi’i theilwra’n fwy penodol tuag at ddefnyddwyr gwasanaeth.  Mae’r newidiadau hyn yn golygu bod pobl yn gallu cysylltu â gwasanaethau cymdeithasol yn haws a derbyn gwasanaethau sy’n eu galluogi i deimlo eu bod yn rhan o’u cymuned.

O ran gwasanaethu i blant, mae’r adroddiad yn dangos bod plant a phobl ifanc sy’n derbyn cymorth yn cael ymateb prydlon gan y gwasanaethau cymdeithasol ar y cyfan, a cheir agweddau cadarnhaol i’r systemau ar gyfer adolygu achosion ac ar gyfer rheoli derbyn i breswylfeydd. Fodd bynnag, mae angen mwy o gynnwys asiantaethau eraill wrth asesu anghenion plant a dylai’r Cyngor roi sylw penodol i wella trefniadau ar gyfer gwaith amddiffyn plant.

Mae’r adroddiad yn nodi bod cyfeiriad clir o ran gwasanaethau cymdeithasol a bod gwelliannau o ran gweithio mewn partneriaeth yn y Cyngor a chydag asiantaethau eraill wedi helpu i sicrhau nifer o wasanaethau newydd, mwy creadigol. Mae’r rhain yn arwain at ganlyniadau mwy cadarnhaol ar gyfer llawer o ddefnyddwyr gwasanaeth. Cymeradwywyd recriwtio a chadw staff, buddsoddi mwy mewn gwasanaethau cymdeithasol a rheoli’r gyllideb yn effeithiol hefyd gan yr adolygwyr.    

Mae’r adroddiad yn nodi bod angen gwella sawl maes.  Mae angen gwneud mwy i sicrhau bod asesiadau a chynlluniau gofal yn canolbwyntio yn gyson ar well canlyniadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth, ac mae angen cryfhau trefniadau monitro. Mae angen gwaith pellach hefyd i sicrhau bod yr holl elfennau hanfodol  wedi’u sefydlu’n gadarn i alluogi gwasanaethau i gael eu llunio a’u darparu. Er bod ystod ehangach o wasanaethau sydd hefyd yn canolbwyntio’n fwy ar y gymuned erbyn hyn, mae pryder yn parhau ynglyn â bylchau o ran gwasanaeth, ac mae’n rhaid i’r Cyngor barhau â’i waith i ehangu’r ddarpariaeth o wasanaethau ar draws y Sir.

Mae’r Cyngor yn ymwybodol bod rhaid mynd i’r afael â’r problemau hyn, ac mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion allweddol, gan gynnwys:    

  • gwella asesu, rheoli gofal ac adolygu mewn gwasanaethau i oedolion ac i blant;
  • cryfhau’r trefniadau ar gyfer amddiffyn pobl agored i niwed;
  • datblygu partneriaethau strategol yn enwedig gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r Ymddiriedolaethau’r GIG; a
  • gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael.

Dywedodd Rob Pickford, Prif Arolygydd AGGCC, heddiw:
“Rydw i’n falch o’r cynnydd a wnaed i wella gwasanaethau cymdeithasol Ceredigion.  Pe byddai’r Cyngor yn gallu parhau i ddatblygu cwmpas a darpariaeth ei wasanaethau gydag ymagwedd fwy proffesiynol, rydw i’n hyderus y bydd ei wasanaethau yn parhau i wella a chyflawni safonau uwch.” 

Dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru, heddiw:

“Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi gwneud sawl gwelliant sylweddol i’w wasanaethau cymdeithasol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a gwelir cyfeiriad clir ar gyfer y dyfodol.  Mae galw cynyddol, a disgwyliadau uwch o ran gofal cymdeithasol yn golygu ei bod yn hanfodol erbyn hyn bod y Cyngor yn canolbwyntio ar wneud y defnydd gorau o’i adnoddau.”  

Nodiadau ar gyfer Golygyddion:

  • Rhan o ail gyfres o gydadolygiadau mewn rhaglen dreigl bum mlynedd i asesu perfformiad awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol unigol yng Nghymru yw’r adroddiad hwn.  Cynhaliwyd adolygiad Ceredigion rhwng mis Hydref 2006 a mis Ionawr 2007.   
  • Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi penodi prif weithredwr newydd yn ddiweddar ac wedi buddsoddi amser ac adnoddau i sefydlu system rheoli perfformiad newydd a ddylai helpu i ddylanwadu ar safonau darparu gwasanaeth, blaenoriaethu cyllidebau a darparu cyfeiriad corfforaethol.  Roedd y llythyr Archwiliad Blynyddol diweddar yn datgan bod rheolaeth ariannol a safonau gwasanaeth y Cyngor yn dda ar y cyfan, a bod y gwelliant a pha mor gyflym y mae’n digwydd, yn gadarnhaol. 
  • Cynhelir cydadolygiadau ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.
  • Cynhelir cydadolygiadau yn unol â Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003, sy’n rhoi’r grym i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gynnal adolygiadau ynglyn â’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. 
  • Mae cydadolygiadau yn ceisio ateb dau gwestiwn allweddol: Pa mor dda yw’r gwasanaethau cymdeithasol y mae’r bobl leol yn eu derbyn, a pha mor dda yw sefyllfa’r Cyngor i gynnal a gwella gwasanaethau?
<< Back to previous page
Hafan | Sut mae Adolygiadau'n Gweithio | Pwy yw Pwy? | Y Broses ar gyfer | Y Rhaglen Cydadolygiadau | Adroddiadau Cydadolygiadau | Newyddion | Making Ends Meet | Amodau a thelerau | Datganiad preifatrwydd | Map o'r wefan
Design & Technology by Reading Room  © The Wales Audit Office 2005
Wales Audit Office SSIW/AGCC