Joint Review in Wales
English  Hygyrchedd  Cyswllt  Argraffwch y tudalen 

Datganiadau i'r wasg

Gwasanaethau Cymdeithasol Merthyr Tudful yn symud i'r cyfeiriad cywir

06 February 2008

Ac yn gweithio tuag at fynd i'r afael â'u diffygion

Yn ôl Adolygiad ar y Cyd a gyhoeddwyd heddiw, mae Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn darparu safonau gofal da, yn gweithio tuag at fynd i'r afael â'u diffygion ac maent mewn sefyllfa dda i gynnal a gwella gwasanaethau.

Mae'r adolygiad, a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, yn dweud bod y Cyngor yn darparu gwasanaethau da yn bennaf ac yn cymryd ei gyfrifoldebau o ran darparu gofal cymdeithasol a chymorth, o ddifrif. Mae'r ymdrech i wella wedi cael effaith gadarnhaol ac mae rhai datblygiadau gwasanaeth da yn golygu bod pobl yn cael gwasanaethau ymatebol sy'n eu helpu i fyw bywydau annibynnol a chyflawn. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn dal i wynebu nifer o heriau ac mae lle i gyflawni ansawdd gwell o ran safon gyffredinol y gwaith i sicrhau bod y bobl iawn yn cael y gwasanaeth iawn ar yr amser iawn.

Canfu adolygwyr, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fod y Cyngor wedi cymryd camau sylweddol i foderneiddio ac ehangu'r ystod o wasanaethau a faint o gymorth sydd ar gael.  Mae staff gwasanaethau cymdeithasol yn ymrwymedig iawn a chrëwyd argraff ar adolygwyr o ran y cyflawniadau a wnaed hyd yn hyn. Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod gan y Cyngor gyfle da i wneud cynnydd pellach, ond bod angen iddo ganolbwyntio ar greu ystod ehangach o wasanaethau cymdeithasol a darparu fframwaith mwy strwythuredig i gefnogi gwaith y staff.

Nododd yr adroddiad feysydd pryder penodol y mae angen mynd i'r afael â hwy o hyd, gan gynnwys yr angen i gael buddsoddiad gwell o'r adnoddau a fuddsoddwyd mewn gwasanaethau cymdeithasol a'r angen i amlygu'r cysylltiadau rhwng y nodau corfforaethol cyffredinol a'r nodau o ran gwasanaethau cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae rhai gwasanaethau yn gweithredu mewn ffyrdd sydd wedi dyddio, gallant fod yn anghyson weithiau wrth ddiwallu anghenion defnyddwyr y gwasanaeth ac nid ydynt bob amser yn darparu'r math o gymorth yr hoffai'r cyngor ei ddarparu i ofalwyr a defnyddwyr.

Mae'r Cyngor yn ymwybodol bod yn rhaid iddo fynd i'r afael â'r problemau hyn ac mae wedi nodi'r dasg o wella gwasanaethau cymdeithasol fel un o'i brif flaenoriaethau. Mae'r adroddiad yn cynnig sawl argymhelliad allweddol; ymhlith y rhain mae:

  • Cyflawni mwy o gysondeb o ran ansawdd asesiadau, cynllunio gofal ac arferion rheoli gofal;
  • Ehangu ystod y dewisiadau gwasanaeth sydd ar gael i bobl mewn angen yn gyflymach, er mwyn mynd i'r afael â bylchau allweddol a nodwyd mewn gwasanaethau gan y Cyngor;
  • Defnyddio'r holl ffyrdd o newid i fanteisio i'r eithaf ar yr adnoddau a fuddsoddwyd mewn gwasanaethau cymdeithasol.

Dywedodd Prif Arolygydd AGGCC, Rob Pickford heddiw:
"Rwy'n fodlon ar y cynnydd a wnaed i wella Gwasanaethau Cymdeithasol ym Merthyr Tudful. Os gall y cyngor barhau i ddatblygu ei wasanaethau yn ehangach a chysylltu hyn â nodau corfforaethol, rwy'n hyderus y bydd yn cyrraedd safonau uwch byth" . 

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman, heddiw:

"Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Merthyr Tudful wedi gwneud gwelliannau sylweddol wrth ddarparu gwasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf ac mae wedi dangos ymrwymiad i unioni diffygion presennol. Bydd angen i'r Cyngor yn awr wneud penderfyniadau gwleidyddol anodd yn gyflymach ar ôl adolygiadau o wasanaethau pwysig fel y gellir gwneud datblygiadau i wasanaethau yn gynt. "

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae'r adroddiad hwn yn rhan o ail gyfres o adolygiadau ar y cyd, rhaglen bum mlynedd barhaus i asesu perfformiad awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol unigol yng Nghymru. Cynhaliwyd adolygiad Merthyr rhwng mis Tachwedd 2006 a mis Mawrth 2007.
  • Ers sawl blwyddyn bellach, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi bod ar daith i drawsnewid ei hun yn gyngor modern, gyda phwyslais ar adfywio ei gymunedau a datblygu'r economi lleol. Ar ôl adroddiad y Comisiwn Archwilio yng Nghymru yn 2003 ar allu corfforaethol y Cyngor i wella, cafwyd cyfnod o newid sylweddol a oedd yn cynnwys recriwtio prif weithredwr newydd, gwaith ailstrwythuro corfforaethol pwysig a llunio'r cynllun Strategol Trawsnewid sy'n cynnig glasbrint ar gyfer cyflawni gweledigaeth a nodau strategol y Cyngor.
  • Cynhelir adolygiadau ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.
  • Cynhelir adolygiadau ar y cyd yn unol â Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003, sy'n rhoi'r pwer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gynnal adolygiadau o'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
  • Nod adolygiadau ar y cyd yw ateb dau gwestiwn allweddol: Pa mor dda yw'r gwasanaethau cymdeithasol y mae pobl yn yr ardal yn eu cael ac a yw'r Cyngor mewn sefyllfa dda i gynnal a gwella'r gwasanaethau?
  • Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan yr adolygiad ar y cyd:
    www.joint-reviews.gov.uk
<< Back to previous page
Hafan | Sut mae Adolygiadau'n Gweithio | Pwy yw Pwy? | Y Broses ar gyfer | Y Rhaglen Cydadolygiadau | Adroddiadau Cydadolygiadau | Newyddion | Making Ends Meet | Amodau a thelerau | Datganiad preifatrwydd | Map o'r wefan
Design & Technology by Reading Room  © The Wales Audit Office 2005
Wales Audit Office SSIW/AGCC