|
Mae gwasanaethau cymdeithasol yn Ynys Môn wedi gwella yn ôl adroddiad y Cydadolygiad a gyhoeddwyd heddiw. Mae’r adolygiad, a gynhaliwyd ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, yn dweud bod y Cyngor yn ‘darparu gwasanaethau da yn bennaf’. O ganlyniad i’r adnoddau y mae wedi’u buddsoddi a’r defnydd y mae wedi’i wneud o gyfleoedd cyllido newydd, asesir bod y Cyngor ‘mewn sefyllfa dda i gynnal a gwella gwasanaethau’. Fodd bynnag, mae angen i’r Cyngor ddarparu arweiniad mwy effeithiol a chyfeiriad clir ar gyfer ei waith wrth lunio patrwm gwasanaethau cymdeithasol yn y dyfodol i ddiwallu anghenion pobl.
Mae’r adroddiad yn archwilio ystod y gwasanaethau sydd ar gael i oedolion a’u hansawdd. Mae ystod y gwasanaethau wedi gwella’n sylweddol, ac mae nifer o bobl yn cael eu cynorthwyo i aros yn eu cartrefi a pharhau’n annibynnol. Mae Ynys Môn yn ffodus o gael grwp o staff o fewn y gwasanaethau cymdeithasol sydd wedi’u hyfforddi’n dda ac sy’n ymroddedig, ac mae’r staff hyn yn gweithio’n galed i gyflwyno gofal o safon uchel.
safbwynt gwasanaethau plant, mae teuluoedd yn cael eu cynorthwyo’n dda a cheir ystod dda o wasanaethau, gyda’r sector gwirfoddol yn gwneud cyfraniad pwysig. Mewn achosion lle nad yw plant yn gallu byw gyda’u teuluoedd, mae’r Cyngor yn llwyddo i drefnu lleoliadau gofal sefydlog ar eu cyfer yn gyffredinol.
Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn mynegi pryder ynghylch:
- ansawdd anghyson y gwasanaethau dydd a ddarperir i rai oedolion;
- y pwysau ar wasanaethau i blant ag anableddau;
- y graddau y mae’r Cyngor yn gallu diwallu anghenion pobl ifanc ag ymddygiad anodd.
Er mwyn delio â’r heriau sylweddol y mae’r Cyngor yn dal i’w hwynebu, mae angen mabwysiadu gwell dull gweithredu mewn perthynas â rheoli newid. Ar hyn o bryd, ni ellir dweud â sicrwydd bod adnoddau’n cael eu defnyddio i gyflwyno’r effaith orau gan fynd i’r afael â’r pwysau sy’n deillio o’r newidiadau yn anghenion pobl a’r galw cynyddol am wasanaethau. Mae ansefydlogrwydd gwleidyddol wedi parhau i greu ansicrwydd a thynnu sylw oddi wrth yr agenda ar gyfer gwella drwy lesteirio’r broses o wneud penderfyniadau effeithiol ac arafu’r broses o newid.
Mae’r adroddiad yn argymell saith blaenoriaeth allweddol o safbwynt gweithredu a fydd yn helpu i wella gwasanaethau cymdeithasol yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- arddangos arweiniad effeithiol ym maes gwasanaethau cymdeithasol;
- sicrhau gwerth am arian;
- gwella’r modd y caiff gofal ei reoli a’i adolygu i sicrhau mwy o gysondeb yn yr arferion ar draws grwpiau o gleientiaid;
- gwrando ar ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr.
Heddiw, dywedodd Rob Pickford, Prif Arolygydd AGGCC:
“Rwy’n falch bod gwasanaethau cymdeithasol yn Ynys Môn yn gwella. Os gall y Cyngor ddarparu arweiniad mwy effeithiol, sicrhau cyfeiriad cliriach a chysylltu’i waith cynllunio ariannol â’i waith datblygu gwasanaethau, rwy’n hyderus y bydd yn cyflawni safonau sydd hyd yn oed yn uwch.”
Heddiw, dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru:
“Mae Ynys Môn yn parhau i wneud cynnydd mewn perthynas â’i gwasanaethau cymdeithasol, a hynny diolch i fuddsoddiad sylweddol a gwaith caled a phenderfyniad y rheolwyr a’r staff. Ond mae angen gwneud mwy, yn enwedig mewn byd lle mae’r disgwyliadau a’r galw am wasanaethau’n cynyddu. Mae angen i’r Cyngor fabwysiadu dull mwy systematig mewn perthynas â rheoli fel y gall fynd i’r afael â’r heriau hynny a fydd yn codi yn y dyfodol.”
|