Joint Review in Wales
English  Hygyrchedd  Cyswllt  Argraffwch y tudalen 

Datganiadau i'r wasg

Gwasanaethau Cymdeithasol Y Fro 'Wedi Gwneud Cynnydd Sylweddol'

28 February 2007

Ond mae rhai problemau yn dal i atal y Cyngor, meddai tîm y Cydadolygiad

Mae gwasanaethau cymdeithasol ym Mro Morgannwg wedi gwella'n sylweddol dros y chwe blynedd diwethaf, yn ôl adroddiad Cydadolygiad a gyhoeddwyd heddiw, sydd o'r farn bod y Cyngor yn darparu 'gwasanaethau da yn bennaf'. Ond yn ystod yr adolygiad, a gynhaliwyd ar y cyd gan Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, gwelwyd bod nifer o broblemau dyfalbarhaus yn rhwystro'r Cyngor rhag gwneud mwy o gynnydd. Am y rheswm hwn mae ei sefyllfa i gynnal a gwella gwasanaethau ymhellach yn ansicr.

Roedd y Cydadolygiad diwethaf yn 2000 yn hynod feirniadol o'r Cyngor, yn enwedig mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir ar gyfer plant a theuluoedd. Mae adroddiad heddiw yn disgrifio'r gwaith sylweddol a wnaed i fynd i'r afael â nifer o'r problemau difrifol a ganfuwyd bryd hynny. Mae buddsoddiad uwch, mwy o ymrwymiad gwleidyddol, fframweithiau corfforaethol gwell a chyfraniad y staff oll wedi helpu i wella ystod ac ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael yn sylweddol.

Bellach, mae gwasanaethau plant yn canolbwyntio'n well ar y tasgau allweddol o ddiogelu plant a hyrwyddo'u lles.  Yn aml, caiff y gwasanaethau'u datblygu mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill a'r sector gwirfoddol. Mae creu tîm penodol i weithio gyda theuluoedd plant ag anableddau wedi helpu i wella'r gwasanaethau a ddarperir ar eu cyfer yn sylweddol. Fodd bynnag, mae rhai bylchau'n bodoli o hyd, fel y dewisiadau ar gyfer gofal seibiant. 

O ran y gwasanaethau oedolion, bu cynnydd yn ystod y gwasanaethau sydd ar gael. Mae camau wedi cael eu cymryd i wella mynediad i wasanaethau mewn cymunedau cymharol ynysig, ac mae mwy o bwyslais yn cael ei roi ar hyrwyddo annibyniaeth a chefnogi pobl yn eu cartrefi. Fodd bynnag, mae'r dull cyffredinol o wella gwasanaeth wedi bod yn un graddol, ad hoc a heb ei gydgysylltu. Mae hyn yn golygu bod bylchau sylweddol yn bodoli o hyd, gan gynnwys prinder y gwasanaethau sydd ar gael i ymateb i argyfwng a'r angen am ofal canolraddol. O ganlyniad, nid yw rhai pobl yn cael ymateb amserol na chymorth priodol o hyd.

Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad bod cyflymder y gwelliant mewn gwasanaethau cymdeithasol wedi cael ei arafu yn sgil diffyg cyfeiriad o ran rhai o'r prif faterion a'r angen i newid gael ei reoli a'i drefnu'n well. Mae'r tîm adolygu o'r farn mai cynaliadwyedd yw'r her fwyaf o ran yr adnoddau sydd ar gael i gynnal a datblygu'r gwasanaethau. Ac mae'n ansicr a oes gan y Cyngor y gallu i gyflwyno rhai mesurau y mae eu hangen i osgoi argyfwng cynyddol - fel cynnig cyfeiriad pendant ar gyfer ffurf a phatrwm y gwasanaethau mewn modd realistig a chynaliadwy yn ariannol.

Mae'r adroddiad yn nodi chwe blaenoriaeth ar gyfer gweithredu arnynt sy'n helpu i roi agenda gydlynus ar gyfer newid i'r Cyngor, er mwyn iddo allu diogelu'r gwelliannau a wnaed eisoes i wasanaethau ac adeiladu arnynt.

Meddai Richard Tebboth, Prif Arolygydd Dros Dro Gwasanaethau Cymdeithasol heddiw:
“Chwe blynedd yn ôl, daethpwyd i'r casgliad bod y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghyngor Bro Morgannwg yn wael. Mae'r ffaith ein bod bellach yn gallu dweud bod y gwasanaeth yn 'dda yn bennaf' yn dipyn o gamp. Ond mae problemau yn bodoli o hyd sy'n bygwth tanseilio'r gwelliant hwn. Bydd angen i'r Cyngor ddelio â'r materion hyn mewn ffordd bwyllog a phenderfynol os yw am ddarparu gwasanaethau i bobl sy'n diwallu anghenion newidiol."

Meddai Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw:
“Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cymryd camau bras o ran gwella ansawdd ei wasanaethau cymdeithasol. Yr hyn sydd ei angen yn awr yw cyfeiriad mwy eglur ar gyfer y dyfodol. Bydd mwy o eglurder ynghylch siâp y gwasanaethau a ddarperir, cytuno ar flaenoriaethau ar gyfer gwariant ac annog herio a chraffu cytbwys yn helpu'r Cyngor i gynnal a gwella'r gwasanaethau ymhellach.”

Notes to Editors:

• This report is part of a second series of joint reviews, a rolling five-year programme to assess the performance of individual social service authorities in Wales.

• Joint reviews are conducted jointly by the Social Services Inspectorate for Wales and the Wales Audit Office.

• The review of Vale of Glamorgan Council was carried out between January and April 2006.

• Joint reviews are carried out in accordance with the Health and Social Care (Community Health and Standards) Act 2003, which gives the National Assembly for Wales the power to conduct reviews of the way in which local authorities discharge their social services functions.

• Joint reviews set out to answer two key questions: How good are the social services that people in the area receive and how well placed is the Council to sustain and improve services?

• Vale of Glamorgan Council covers a largely rural area, serving a population of some 121,000.

• Further information can be found on the joint review web-site: www.joint-reviews.gov.uk
Ends
For more information, please contact Rachel Moss (Wales Audit Office Communications Manager) on 029 2026 2675 or email rachel.moss@wao.gov.uk

<< Back to previous page
Hafan | Sut mae Adolygiadau'n Gweithio | Pwy yw Pwy? | Y Broses ar gyfer | Y Rhaglen Cydadolygiadau | Adroddiadau Cydadolygiadau | Newyddion | Making Ends Meet | Amodau a thelerau | Datganiad preifatrwydd | Map o'r wefan
Design & Technology by Reading Room  © The Wales Audit Office 2005
Wales Audit Office SSIW/AGCC