|
Mae adolygiadau ar y cyd yn cael effaith gadarnhaol o ran helpu i godi safonau gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw. Mae astudiaeth werthuso gan Eskrigge Social Research yn cynnwys cymeradwyaeth gadarn ar gyfer sawl agwedd ar y rhaglen adolygu ar y cyd, y lansiwyd ei ail gylch yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2004.
Nod yr astudiaeth oedd ateb pum cwestiwn allweddol ynglyn â'r Broses adolygu ar y cyd - sy'n darparu asesiad annibynnol o ba mor dda y caiff y cyhoedd yng Nghymru eu gwasanaethu gan wasanaethau cymdeithasol lleol. Canfu'r adroddiad dystiolaeth gadarn o'r canlynol:
• Caiff canfyddiadau adolygiadau ar y cyd eu hategu gan dystiolaeth ddigonol, berthnasol a dibynadwy. • Mae rhanddeiliaid - defnyddwyr, gofalwyr, staff a gwleidyddion - wedi chwarae mwy o ran yn y broses adolygu. • Ceir mwy o gysondeb o ran ymagwedd a barn rhwng yr adolygiadau mewn awdurdodau lleol gwahanol. • Mae adolygiadau ar y cyd yn chwarae rhan yn y gwaith o hyrwyddo gwell gwasanaethau cymdeithasol.
Yr unig brif faes lle canfu'r ymchwilwyr dystiolaeth gymysg oedd o ran effeithiolrwydd camau gweithredu a gymerwyd i leihau'r llwyth gwaith sy'n gysylltiedig â phob adolygiad ar y cyd. Er enghraifft, mae'r adroddiad yn nodi bod y gwaith o gasglu deunydd paratoawl ar gyfer y tîm adolygu ar y cyd yn dasg anodd. Fodd bynnag, canfu'r ymchwilwyr mai barn gyffredinol ymatebwyr oedd bod adolygiadau ar y cyd yn rhan briodol o atebolrwydd. Cymerir camau gweithredu i helpu i leihau ymhellach y galwadau ar Gynghorau ac adolygwyr, megis diwygio'r fethodoleg adolygu ar y cyd a chynyddu'r hyblygrwydd a ddefnyddir i weithredu prosesau.
Mae'r adroddiad hwn yn dilyn ymarfer cyfrif stoc diweddar gan Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, a gynlluniwyd yn ogystal i archwilio'r broses adolygu a pharhau i'w datblygu mewn modd agored ac ymgynghorol. Bydd Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn ystyried yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, ynghyd â'r canfyddiadau o'r ymarfer cyfrif stoc, ac yn gwneud diwygiadau priodol. Byddant hefyd yn trafod canfyddiadau'r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gydag awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau cymdeithasol ac yn ymgorffori unrhyw newidiadau i'r fethodoleg o fewn y llawlyfr adolygiadau ar y cyd a gyhoeddwyd.
Heddiw dywedodd y Prif Arolygydd Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, Richard Tebboth: "Mae'r adroddiad gwerthuso allanol hwn yn amlygu'r cyfraniad gwirioneddol a wneir gan Adolygiadau ar y Cyd wrth godi safonau o ran darparu gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n dangos ein hymrwymiad i ddidwylledd a gwella a byddwn yn awr yn defnyddio'r adborth hwn i wella'r broses ymhellach."
Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman: "Bydd yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn helpu i lunio dyfodol adolygiadau ar y cyd yng Nghymru. Mae hefyd yn tanlinellu rôl bwysig adolygiadau yn y gwaith o ledaenu arfer da ar draws awdurdodau lleol, hyrwyddo gwelliannau a hysbysu'r cyhoedd am ansawdd gwasanaethau cymdeithasol yn eu hardal."
Nodiadau i Olygyddion:
• Penodwyd y tîm o Eskrigge Social Research yn dilyn ymarfer tendro cystadleuol. Fe'u comisiynwyd i werthuso'r chwe adolygiad ar y cyd cyntaf, yn yr ail gylch, yn erbyn eu hamcanion a nodwyd.
• Bydd y Tîm, a arweiniwyd gan yr Athro Clough, yn cyflwyno canfyddiadau eu hadroddiad mewn cynhadledd genedlaethol yn Llandrindod ar 7 Tachwedd. Yn ystod yr un digwyddiad, bydd Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn cyflwyno rhai o'r themâu a'r negeseuon allweddol sy'n deillio o'r adolygiadau cyntaf.
• Cynhelir adolygiadau ar y cyd yn unol â Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003, sy'n rhoi'r pwer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gynnal adolygiadau o'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
• Dirprwywyd y dasg o gyflawni adolygiadau ar y cyd i Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, ac mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (fel y'i diwygiwyd) yn galluogi Archwilydd Cyffredinol Cymru i gymryd rhan.
• Nod adolygiadau ar y cyd yw ateb dau gwestiwn allweddol: Pa mor dda yw'r gwasanaethau cymdeithasol a ddarperir i bobl yn yr ardal? ac A yw'r Cyngor mewn sefyllfa dda i gynnal a gwella gwasanaethau?
• I gael copi o'r adroddiad hwn, ac am fwy o wybodaeth am Adolygiadau ar y Cyd, ewch i'r wefan: www.joint-reviews.gov.uk
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lisa Smyth ar 029 2026 2675 neu drwy anfon e-bost at lisa.smyth@wao.gov.uk
|