Joint Review in Wales
English  Hygyrchedd  Cyswllt  Argraffwch y tudalen 

Datganiadau i'r wasg

Gwasanaethau anghyson ond mewn sefyllfa dda

28 September 2006

Cydadolygiad o’r gwasanaethau cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf 

Mae camau pendant yn cael eu cymryd i wella gwasanaethau cymdeithasol anghyson yn Rhondda Cynon Taf, yn ôl adroddiad Cydadolygiad a gyhoeddwyd heddiw. Fodd bynnag, mae’n rhy gynnar i fesur a fydd y newidiadau diweddar yn arwain at fudd yn y tymor hir i blant ac oedolion.

Mae’r adolygiad, a gynhaliwyd ar y cyd gan Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, yn barnu bod gan Rondda Cynon Taf ‘wasanaethau anghyson’ ond ei bod ‘ar y cyfan mewn sefyllfa dda i gynnal y gwasanaethau a’u gwella ymhellach’.

Canfu fod oedolion y mae angen cymorth arnynt yn aml yn cael gwasanaethau llawn gofal, diymdroi a chymwys. Ond mae angen gwneud rhagor o waith os yw’r holl oedolion sy’n defnyddio gwasanaethau i gael y math o help y mae ei angen arnynt er mwyn cael mwy o annibyniaeth. Yn draddodiadol, mae’r Cyngor wedi gwneud defnydd sylweddol o ofal dydd preswyl a gofal ‘seiliedig ar adeiladau’, a hwnnw’n cael ei ddarparu’n bennaf gan ei staff ei hun. Mae hyn wedi cyfyngu ar y nifer o bobl oedd yn cael help ac ar y dewisiadau oedd ar gael iddynt. Mae’r sefyllfa’n newid erbyn hyn, er mai yn araf y mae hynny’n digwydd. Mae mwy o bobl yn cael cymorth yn eu cartrefi eu hunain ac mewn sefydliadau cymunedol gan ystod ehangach o ddarparwyr gwasanaethau, yn cynnwys mudiadau gwirfoddol.

Mae’r gwasanaethau i blant a’u teuluoedd wedi achosi llawer o bryder. Er gwaethaf tystiolaeth fod gwelliannau wedi digwydd yn ddiweddar, mae’r sefyllfa’n dal i fod yn fregus. Nid oedd rhai plant a oedd yn agored i niwed yn cael yr help yr oedd ei angen arnynt ar yr adeg iawn, yn rhannol am nad oedd gan y Cyngor ddigon o staff â’r sgiliau a’r cymwysterau priodol. Gohiriwyd penderfyniadau tyngedfennol ac ni ellid gwarantu amddiffyniad effeithiol na chyfleoedd datblygu i blant.

Canfu tîm yr Adolygiad fod y Cyngor yn gweithredu’n bendant i sicrhau gwelliannau yn y gwasanaethau i blant a theuluoedd. Mae gwelliannau cadarn wedi cael eu gwneud, yn cynnwys mwy o gefnogaeth i’r Is-adran Gwasanaethau Plant a Theuluoedd drwy ei symud i’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymunedol, sydd hefyd yn gyfrifol am ofal cymdeithasol i oedolion a thai. Mae’r Cyngor hefyd wedi cynyddu lefel y cymorth gwleidyddol, corfforaethol a thechnegol sydd ar gael i’r isadran yn sylweddol.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn rhybuddio am risg y gallai’r angen i ganolbwyntio ar wella’r gwasanaethau plant effeithio’n andwyol ar allu’r Cyngor i weithredu ei agenda gwasanaethau oedolion. Dywed hefyd fod llawer o’r problemau sy’n wynebu’r Cyngor wedi bodoli ers amser maith, sy’n golygu y bydd angen i’r gwaith diwygio barhau dros gyfnod sylweddol o amser er mwyn delio’n effeithiol â materion sy’n dal heb gael eu datrys. Mae’r rhain yn cynnwys y problemau rheoli a staffio a etifeddwyd yn y gwasanaethau plant a’r ffaith bod y moderneiddio yn y gwasanaethau oedolion yn mynd rhagddo’n bur araf. Nid yw gweithio drwy bartneriaeth wedi cael ei ddatblygu’n helaeth yn y gwasanaethau oedolion ac mae’r costau yno yn gymharol uchel.

At ei gilydd, fodd bynnag, daeth yr Adolygwyr i’r casgliad fod Rhondda Cynon Taf mewn sefyllfa dda ar y cyfan i gynnal y gwasanaethau cymdeithasol a gwneud gwelliannau pellach iddynt, gyda thystiolaeth gref fod y Cyngor drwyddo draw yn cyfrannu at y rhaglen newid.

Gofynnwyd i’r cyngor lunio cynllun gweithredu mewn ymateb i’r Adolygiad. Bydd AGCC a Swyddfa Archwilio Cymru yn gwneud gwaith pellach i werthuso’r cynnydd o ran rhoi’r camau gweithredu ar waith a hefyd i werthuso’r canlyniadau i ddefnyddwyr y gwasanaethau a gofalwyr.

Dywedodd Prif Arolygydd Gweithredol y Gwasanaethau Cymdeithasol, Richard Tebboth, heddiw:

“Rwyf wedi fy nghalonogi gan y newidiadau y mae Rhondda Cynon Taf wedi eu gwneud i’r gwasanaethau cymdeithasol yn ddiweddar ond mae sialensiau anodd yn wynebu’r Cyngor o hyd. Mae angen iddo gynnal y lefelau uchel o ymroddiad i wella gwasanaethau. Byddwn yn monitro’r cynnydd dros y flwyddyn nesaf i ganfod a yw anghenion pobl sy’n agored i niwed yn cael eu diwallu’n fwy cyson gan y Cyngor"

Dywedodd Archwiliwr Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman, heddiw:

“Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn adeiladu platfform cadarn i’w ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol, ond nid yw manteision rhai newidiadau diweddar wedi dod yn amlwg eto. Rhaid bellach i’r Cyngor ddatblygu cynllun gweithredu cryf mewn ymateb i’r adroddiad hwn a’i roi ar waith, i helpu i sicrhau gwelliannau pellach.”

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae’r adroddiad hwn yn rhan o ail gyfres o gydadolygiadau, sef rhaglen dreigl bum mlynedd i asesu perfformiad awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol unigol yng Nghymru.
  • Mae’r cydadolygiadau yn cael eu cynnal ar y cyd gan Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.
  • Cafodd y gwaith maes ar gyfer adolygiad Cyngor Rhondda Cynon Taf ei wneud rhwng mis Awst a mis Rhagfyr 2005.
  • Mae cydadolygiadau yn cael eu cynnal yn unol â Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003, sy’n rhoi’r pwer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i adolygiadu’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
  • Mae cydadolygiadau’n mynd ati i ateb dau gwestiwn allweddol: Pa mor dda yw’r gwasanaethau cymdeithasol y mae pobl yn yr ardal yn eu cael? a Mewn sefyllfa pa mor dda yw’r Cyngor i gynnal a gwella’r gwasanaethau?
  • Cyngor Rhondda Cynon Taf yw’r awdurdod unedol mwyaf poblog ond un yng Nghymru, yn gwasanaethu 232,000 o bobl yn fras.
  • Gellir cael rhagor o wybodaeth ar y wefan cydadolygiadau: http://www.joint-reviews.gov.uk/

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Harries (Rheolwr Cyfathrebu Swyddfa Archwilio Cymru) ar 029 2026 2675.

<< Back to previous page
Hafan | Sut mae Adolygiadau'n Gweithio | Pwy yw Pwy? | Y Broses ar gyfer | Y Rhaglen Cydadolygiadau | Adroddiadau Cydadolygiadau | Newyddion | Making Ends Meet | Amodau a thelerau | Datganiad preifatrwydd | Map o'r wefan
Design & Technology by Reading Room  © The Wales Audit Office 2005
Wales Audit Office SSIW/AGCC