|
Mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn anghyson ond mae rhai arwyddion gobeithiol eu yn gwella. Er bod plant a'u teuluoedd yn cael gwasanaethau da iawn, mae gan y Cyngor dipyn o ffordd i fynd cyn bod ystod digonol o wasanaethau cyfoes i oedolion yn diwallu mewn modd dibynadwy anghenion pobl sy'n agored i niwed yn yr ardal. Dyma gasgliad adroddiad a gyhoeddwyd heddiw ar y cydadolygiad o wasanaethau cymdeithasol y Cyngor a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGCC) a Swyddfa Archwilio Cymru.
Canfu'r adolygwyr fod newidiadau o fewn y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth uwch i'r gwasanaethau cymdeithasol ac wedi darparu cyfleoedd da am weithio mwy cydlynus wrth gyflwyno gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, nid aethpwyd i'r afael â rhai problemau a nodwyd adeg y cydadolygiad diwethaf eto a bu'r cynnydd yn araf o ran delio â rhai newidiadau arwyddocaol i wasanaethau oedolion.
Mae'r darlun cymwys hwn wedi arwain at y farn gyffredinol fod gan Gyngor Sir Caerfyrddin 'wasanaethau anghyson' a'i fod 'mewn sefyllfa ansicr i gynnal a gwella gwasanaethau ymhellach.'
Daw'r adroddiad i'r casgliad fod y gwasanaethau ar gyfer plant a'u teuluoedd yn dda ar y cyfan, gyda ffocws clir ar ddiogelu plant a hyrwyddo eu lles. Canfu'r adolygwyr fod ystod sylweddol o wasanaethau yn eu lle a threfniadau rheolaeth effeithiol. Bu'r rheolwyr a'r staff yn greadigol ac yn arloesol wrth ddefnyddio'r cyllid sydd ar gael, er bod adnoddau'n parhau yn ardal o risg a bod pwysau sylweddol ar gyllid.
Gwnaed llai o gynnydd yn y gwasanaethau oedolion, lle'r oedd adolygwyr yn pryderu'n fwy am gyflymder y newid a'r gwelliant. Pan fydd pobl yn cael y gwasanaethau hyn, ar y cyfan maent yn ddiogel ac yn ofalgar. Fodd bynnag, canfu'r adolygiad bod nifer cynyddol o bobl sy'n agored i niwed nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu ac maent mewn perygl yn y gymuned ac yn yr ysbytai, gan nad oes gwasanaethau a chyllid ar gael.
Mae'r adroddiad yn cydnabod yr ymateb cadarnhaol iawn gan y Cyngor i'r pryderon a godwyd yn ystod yr adolygiad. Mae'r Cyngor yn cydnabod bod angen iddo symud yn gyflym er mwyn ymdrin â'r materion a nodwyd. Yn y tymor byr, dywed yr adroddiad y bydd angen cymorth ychwanegol ar y Cyngor o bosibl er mwyn gwella'n ddigon cyflym ei allu i ddelio â diffygion mewn meysydd fel comisiynu, rheoli prosiect, a chynllunio ariannol a chynllunio gwasanaethau.
Gofynnwyd i'r Cyngor gynhyrchu cynllun gweithredu mewn ymateb i'r adroddiad hwn a bydd staff o AGCC a Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal gwaith pellach i werthuso'r cynnydd a wnaed wrth gyflawni'r camau a'r canlyniadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.
Meddai Prif Arolygydd Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol, Richard Tebboth heddiw: "Mae'r adroddiad hwn yn cydnabod y cynnydd a wnaed gan Gyngor Sir Gaerfyrddin wrth iddo wella ei wasanaethau cymdeithasol ar gyfer plant. Nid oes digon wedi'i wneud eto i sicrhau'r safon y mae pobl yn ei ddisgwyl gan wasanaethau oedolion. Dylai'r Cyngor, fel mater o flaenoriaeth, ddatblygu gweledigaeth glir ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn eu cyfanrwydd a strategaethau cynaliadwy ar gyfer moderneiddio gwasanaethau oedolion, y gellir eu trosi'n gyflym yn gamau cadarnhaol a fydd yn sicrhau manteision clir i ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr."
Meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman, heddiw: "Mae'r Cyngor yn symud i'r cyfeiriad cywir ac mae newidiadau a wnaed ers y cydadolygiad cyntaf yn dangos rhai canlyniadau. Mae rhai problemau a rhwystrau sylfaenol i welliant y mae angen delio â hwy os yw gwasanaethau cymdeithasol oedolion Sir Gaerfyrddin i ddiwallu anghenion pobl sy'n agored i niwed yn gyson."
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rachel Harries (Rheolydd Cyfathrebu Swyddfa Archwilio Cymru) ar 029-2026-2675
|